Training Courses

Marchnata Arbenigol i Arddangoswyr - Caerdydd

28/02/2008

Wales Millennium Centre, Cardiff

” Galluogodd y cwrs i mi ddeall anghenion marchnata fy sefydliad yn fwy manwl, ac i gyflwyno cynllun allanol (outreach) mwy effeithiol. ‘Rwyf wedi defnyddio syniadau a gyflwynwyd ar y cwrs i newid y ffordd ‘rydym ni’n targedu ac yn cyfathrebu â chynulleidfaoedd” — person dan hyfforddiant i’r ICO 2006

Mae’r cwrs hwn wedi ei anelu at sinemâu annibynnol, gwyliau ffilm, lleoliadau ar gyfer pob math o gelfyddyd, cymdeithasau ffilm a swyddogion datblygu’r celfyddydau ledled Prydain sydd â diddordeb yn y technegau sydd eu hangen i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau arbenigol. Dangosir i chi sut i wneud y gorau o’ch taflenni broliant, eich gwefan, eich rhestr e-bost a’ch safleoedd rhwydweithio cymdeithasol heb orfod gwario gormod o arian, er mwyn codi proffil eich sefydliad, ac i ddenu cynulleidfaoedd i’ch sgriniadau.

Bydd amrywiaeth o arbenigwyr marchnata yn cynnal y cwrs gan gynnal cyflwyniadau, astudiaethau achos a gweithdai. Bydd detholiad o sesiynau ar gael er mwyn galluogi i’r cyfranogwyr ddilyn eu llwybr dewisol eu hunain yn ystod y diwrnod, yn unol â’u harbenigedd, eu sefydliad a’u hadnoddau. Bydd y diwrnod hefyd yn darparu cyfle gwerthfawr i rwydweithio ar raddfa genedlaethol.

Dates

28/02/2008

Fees

£90 + VAT

Venue

Wales Millennium Centre

9.45 – 10.15am Cofrestru

10.15 – 11.45am Sesiwn 1

a) Cyflwyniad i farchnata

Gweithdy ar amgyffred dealltwriaeth y gynulleidfa o’ch lleoliad neu sefydliad, adnabod a chyfathrebu eich hunaniaeth ac asesu eich deunyddiau printiedig ar gyfer marchnata (dewch a nhw gyda chi!).

Arweinir gan Ros Fry, ymgynghorwr marchnata Annibynnol (www.rosfry.co.uk).

Addas ar gyfer sefydliadau bach i ganolig, neu ar gyfer y rheiny nad ydynt wedi mynychu cwrs hyfforddi marchnata’r ICO o’r blaen.

NEU

b) Astudiaeth achos o strategaeth farchnata

Cyflwyniad gan leoliad celfyddydol mawr, neu gan wyl, ar ymgyrchoedd marchnata llwyddiannus, gan ymdrin â datblygu brand, cyfathrebu effeithiol a datblygu perthynas â’ch cynulleidfa.

Siaradwr i’w gadarnhau.

Addas ar gyfer sefydliadau canolig i fawr, ac ar gyfer y rheiny sydd wedi mynychu cwrs hyfforddi marchnata’r ICO o’r blaen.

12.00 – 1.30pm Sesiwn 2

a) Dilynwch eich ffordd eich hun (Horses for courses)

Sesiwn ymarferol ar ysgrifennu copi sy’n cyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd: copi llyfrynnau broliant, datganiadau i’r wasg a gwefannau. Dewch ag esiampl o gopi eich deunydd marchnata gyda chi.

Arweinir gan Ros Fry, ymgynghorydd marchnata Annibynnol (www.rosfry.co.uk).

Addas i bawb.

NEU

b) E-daflenni a rhestrau e-bostio

Awgrymiadau ymarferol ar ddefnyddio e-daflenni, gan gynnwys ystyriaethau fformat, casglu rhestrau postio ynghyd, a sut i osgoi cael eich gwahardd fel spam. (Sylwch y bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar gyngor strategaeth yn hytrach na’r manylion technegol ar sut i lunio e-daflen)

Arweinir gan Hans de Kretser, ymgynghorydd e-farchnata, Hans de Kretser Associates (www.dekretser.com)

Addas i bawb.

2.30 – 4.30pm Sesiwn 3

a) Gwneud y gorau o’ch gwefan

Gweithdy ar wella eich presenoldeb ar-lein, bydd yn cynnwys pynciau fel yr hyn y dylid ac na ddylid ei wneud wrth gynllunio, fideo wedi’i ffrydio, sut i wneud y gorau o’r peiriant chwilio a gwneud eich gwefan yn “ludiog” (sticky)

Siaradwr i’w gadarnhau.

Addas i bawb.

NEU

b) Deall rhwydweithio cymdeithasol

Canllaw i godi proffil eich sefydliad drwy gymunedau cymdeithasol rhwydweithiol ar-lein (Facebook, MySpace, Bebo) gan gynnwys fideo, blogio a phodcastio.

Arweinir gan Hans de Kretser, ymgynghorydd e-farchnata, Hans de Kretser Associates (www.dekretser.com)

Addas i’r rheiny sy’n bwriadu dechrau defnyddio rhwydweithio cymdeithasol i hybu eu lleoliad neu ddigwyddiadau.

4.30 – 5.30pm Rhwydweithio dros ddiod

Cost:

£90 + VAT (£105.75), yn cynnwys cinio, lluniaeth ysgafn a chyfle i rwydweithio dros ddiod.

Archebu eich lle:

Hon cerrynt ydy awron ar.

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Sgiliau Ffilm Skillset, a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol drwy’r ‘UK Film Council’, a’r diwydiant ffilm drwy’r Gronfa Fuddsoddi Sgiliau. Skillset yw’r Cyngor Sector Sgiliau ar gyfer y Diwydiannau Clyweled. www.skillset.org

Mewn cydweithrediad ag Asiantaeth Ffilm Cymru.

Subscribe to our mailing list

What would you like to receive emails about? *
* indicates required