Sinema Leol i Bobl Leol: Datblygu Cynulleidfaoedd ar gyfer Sinemâu Annibynnol

Lleoliad: Y Stiwdio, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth

Dyddiad: Mercher 31ain 2006

Mae’r Swyddfa Sinema Annibynnol yn cyflwyno cwrs hyfforddi undydd anhepgor ar gyfer arddangoswyr yng Nghymru sydd eisiau ehangu’r cynulleidfaoedd sydd yn dod i weld ffilmiau yn eu sinemâu, eu cymdeithasau ffilm neu eu gwyliau ffilm – a hynny tra’n gweithio ag adnoddau cyfyngedig. Fe fydd y cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu eich strategaethau rhaglennu a’ch deunyddiau marchnata er mwyn denu’r cynulleidfaoedd mwyaf posib, ac fe fydd yn addas ar gyfer canolfannau celfyddydol, sinemâu rhan-amser, cymdeithasau ffilm, gwyliau ffilm newydd a swyddogion datblygu’r celfyddydau.

Fe fydd y cwrs yn cynnwys cyflwyniadau ac astudiaethau achos, yn ogystal â gweithgareddau grŵp a fydd yn archwilio eich strategaethau rhaglennu a’ch deunyddiau marchnata presennol gan edrych am ffyrdd i’w gwella. Fe fyddwch chi’n dysgu technegau diguro gan arbenigwyr cydnabyddedig sydd wedi gweithio yn y sector sinema annibynnol ers blynyddoedd lawer ac erbyn diwedd y diwrnod fe fyddwch chi wedi ffurfio nifer o dargedau ar gyfer datblygu eich sefydliad eich hun.

Fe fydd y cwrs yn archwilio’r meysydd canlynol:

  • Pa strategaethau datblygu penodol ddylech chi fod yn eu gweithredu?
  • Sut mae cyrraedd y gynulleidfa fwyaf posib – a sut mae mynd ati i dargedu’r gynulleidfa honno?
  • Beth allwch chi’i wneud i annog newydd-ddyfodiaid i fynychu’ch dangosiadau? Sut mae perswadio’r mynychwyr presennol i ddod i’ch digwyddiadau yn fwy aml?
  • Sut mae ysgrifennu adolygiadau a fydd yn gwerthu’r ffilm i’r ystod ehangaf o bobl?
  • Sut mae cael gafael ar yr adnoddau a’r wybodaeth sydd angen arnoch chi i wneud eich swydd?
  • Ydy’ch deunyddiau marchnata yn llwyddo i werthu’ch rhaglen o ffilmiau – sut allan nhw gael eu gwella?

Pris y cwrs yw £55 + TAW (£64.63.) Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd dydd Gwener, Ebrill 28ain, ond gan mai nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael, fe’ch anogir chi i archebu’n gynnar. I archebu lle, dadlwythwch ffurflen gais o www.independentcinemaoffice.org.uk/pdf/skillsetwalesinwelsh.pdf a dychwelwch hi erbyn dydd Gwener, Ebrill 28ain. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech sicrhau y bydd y cwrs yn addas ar eich cyfer, cysylltwch â Becky Innes ar 020 7636 7120 neu e-bostiwch beckyi@independentcinemaoffice.org.uk

Tiwtor y Cwrs: Catharine Des Forges, Cyfarwyddwr Y Swyddfa Sinema Annibynnol

A chanddi 13 mlynedd o brofiad ar hyd a lled y sector arddangos ym Mhrydain, mae Catharine yn cael ei chydnabod fel arbenigwr yn y maes. Cwblhaodd radd MA mewn Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Llundain yn 1993 ac o 1994-7 gweithiodd yn Uned Arddangos Rhanbarthol y BFI, gan raglennu a chynghori amrywiaeth o sinemâu annibynnol. Bu’n rhaglennydd Gŵyl Ffilmiau Byrion Brief Encounters am 3 blynedd, gweithiodd fel un o aseswyr cynllun Loteri Cyngor y Celfyddydau ac fe gyd-ddyfeisiodd, ac arwain am 6 blynedd wedi hynny, Gwrs Rhaglennu Diwylliannol y BFI. Mae Catharine wedi darlithio ar ffilm mewn nifer o brifysgolion ym Mhrydain gan gynnwys Prifysgolion Llundain, Nottingham Trent a Surrey. Yn 2000 penodwyd Catharine yn Uwch Raglennydd gyda Uned Raglennu’r BFI lle roedd hi’n gyfrifol am deithio a churadu rhaglenni ffilm. Ym mis Gorffennaf 2003 sefydlodd Catharine y Swyddfa Sinema Annibynnol, y sefydliad cenedlaethol ar gyfer datblygu a chefnogi’r sector arddangos annibynnol ym Mhrydain ac mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr y Swyddfa ers hynny.

Ariannir y prosiect hwn gan Gronfa Sgiliau Ffilm Skillset, a gefnogir gan y Loteri trwy Gyngor Ffilm Y DG, a’r diwydiant ffilm trwy’r Gronfa Buddsoddi mewn Sgiliau. Skillset yw Cyngor Sgiliau’r Sector ar gyfer y diwydiannau clyweledol - www.skillset.org.

Trefnwyd y diwrnod hyfforddi hwn ar y cyd â Sgrin a Skillset Cymru.