Marchnata Arbenigol i Arddangoswyr
Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Bae Caerdydd, Caerdydd CF10 5AL
Dyddiad: dydd Iau 28ain Chwefror 2008
Amser: 9.45am – 4.30pm, rhwydweithio dros ddiod i ddilyn
" Galluogodd y cwrs i mi ddeall anghenion marchnata fy sefydliad yn fwy manwl, ac i gyflwyno cynllun allanol (outreach) mwy effeithiol. ‘Rwyf wedi defnyddio syniadau a gyflwynwyd ar y cwrs i newid y ffordd ‘rydym ni'n targedu ac yn cyfathrebu â chynulleidfaoedd" — person dan hyfforddiant i'r ICO 2006
Mae'r cwrs hwn wedi ei anelu at sinemâu annibynnol, gwyliau ffilm, lleoliadau ar gyfer pob math o gelfyddyd, cymdeithasau ffilm a swyddogion datblygu'r celfyddydau ledled Prydain sydd â diddordeb yn y technegau sydd eu hangen i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau arbenigol. Dangosir i chi sut i wneud y gorau o'ch taflenni broliant, eich gwefan, eich rhestr e-bost a'ch safleoedd rhwydweithio cymdeithasol heb orfod gwario gormod o arian, er mwyn codi proffil eich sefydliad, ac i ddenu cynulleidfaoedd i'ch sgriniadau.
Bydd amrywiaeth o arbenigwyr marchnata yn cynnal y cwrs gan gynnal cyflwyniadau, astudiaethau achos a gweithdai. Bydd detholiad o sesiynau ar gael er mwyn galluogi i'r cyfranogwyr ddilyn eu llwybr dewisol eu hunain yn ystod y diwrnod, yn unol â'u harbenigedd, eu sefydliad a'u hadnoddau. Bydd y diwrnod hefyd yn darparu cyfle gwerthfawr i rwydweithio ar raddfa genedlaethol.
9.45 – 10.15am Cofrestru
10.15 – 11.45am Sesiwn 1
a) Cyflwyniad i farchnata
Gweithdy ar amgyffred dealltwriaeth y gynulleidfa o'ch lleoliad neu sefydliad, adnabod a chyfathrebu eich hunaniaeth ac asesu eich deunyddiau printiedig ar gyfer marchnata (dewch a nhw gyda chi!).
Arweinir gan Ros Fry, ymgynghorwr marchnata Annibynnol (www.rosfry.co.uk).
Addas ar gyfer sefydliadau bach i ganolig, neu ar gyfer y rheiny nad ydynt wedi mynychu cwrs hyfforddi marchnata'r ICO o'r blaen.
NEU
b) Astudiaeth achos o strategaeth farchnata
Cyflwyniad gan leoliad celfyddydol mawr, neu gan wyl, ar ymgyrchoedd marchnata llwyddiannus, gan ymdrin â datblygu brand, cyfathrebu effeithiol a datblygu perthynas â'ch cynulleidfa.
Siaradwr i'w gadarnhau.
Addas ar gyfer sefydliadau canolig i fawr, ac ar gyfer y rheiny sydd wedi mynychu cwrs hyfforddi marchnata'r ICO o'r blaen.
12.00 – 1.30pm Sesiwn 2
a) Dilynwch eich ffordd eich hun (Horses for courses)
Sesiwn ymarferol ar ysgrifennu copi sy'n cyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd: copi llyfrynnau broliant, datganiadau i'r wasg a gwefannau. Dewch ag esiampl o gopi eich deunydd marchnata gyda chi.
Arweinir gan Ros Fry, ymgynghorydd marchnata Annibynnol (www.rosfry.co.uk).
Addas i bawb.
NEU
b) E-daflenni a rhestrau e-bostio
Awgrymiadau ymarferol ar ddefnyddio e-daflenni, gan gynnwys ystyriaethau fformat, casglu rhestrau postio ynghyd, a sut i osgoi cael eich gwahardd fel spam. (Sylwch y bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar gyngor strategaeth yn hytrach na'r manylion technegol ar sut i lunio e-daflen)
Arweinir gan Hans de Kretser, ymgynghorydd e-farchnata, Hans de Kretser Associates (www.dekretser.com)
Addas i bawb.
2.30 – 4.30pm Sesiwn 3
a) Gwneud y gorau o'ch gwefan
Gweithdy ar wella eich presenoldeb ar-lein, bydd yn cynnwys pynciau fel yr hyn y dylid ac na ddylid ei wneud wrth gynllunio, fideo wedi'i ffrydio, sut i wneud y gorau o'r peiriant chwilio a gwneud eich gwefan yn "ludiog" (sticky)
Siaradwr i'w gadarnhau.
Addas i bawb.
NEU
b) Deall rhwydweithio cymdeithasol
Canllaw i godi proffil eich sefydliad drwy gymunedau cymdeithasol rhwydweithiol ar-lein (Facebook, MySpace, Bebo) gan gynnwys fideo, blogio a phodcastio.
Arweinir gan Hans de Kretser, ymgynghorydd e-farchnata, Hans de Kretser Associates (www.dekretser.com)
Addas i'r rheiny sy'n bwriadu dechrau defnyddio rhwydweithio cymdeithasol i hybu eu lleoliad neu ddigwyddiadau.
4.30 – 5.30pm Rhwydweithio dros ddiod
Cost:
£90 + VAT (£105.75), yn cynnwys cinio, lluniaeth ysgafn a chyfle i rwydweithio dros ddiod. Mae cefnogaeth bwrsari tuag at ffioedd, teithio a/neu lety ar gael o amrywiol Asiantaethau Sgrin a'r ICO - cliciwch yma am wybodaeth bellach. Mae ffurflen gais am fwrsariaethau'r ICO ar gael i'w llawr lwytho yma (NB. Am fwrsariaethau'r Asiantaeth Sgrin, gweler gwybodaeth bellach am fwrsariaethau).
Archebu eich lle:
Llawr lwythwch ffurflen gais y cwrs a'i dychwelyd ynghyd â siec yn daladwy i'r ‘Independent Cinema Office’ erbyn dydd Mercher 13eg Chwefror. Yn anffodus ni allwn dderbyn taliad drwy gerdyn credyd na debyd, ond gallwn yrru anfoneb os dymunwch. Mae llefydd yn brin ac ar gael ar sail y cyntaf i'r felin, felly fe'ch argymhellir yn gryf i archebu'n fuan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, neu'n dymuno sicrhau ei fod yn addas i'ch anghenion chi, cysylltwch â Tilly Walnes, Swyddog Hyfforddi & Datblygu (tilly@independentcinemaoffice.org.uk neu 020 7079 0477).
Teithio a llety:
Mae gwasanaeth bws gwennol o orsaf Caerdydd Canolog i Fae Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru ar gael yn rhad ac am ddim os oes gennych docyn trên dwy ffordd. Maent yn rhedeg bob 10 munud ac mae'r siwrnai'n para tua 8 munud. Cliciwch yma am fap ac yn y fan hon am gyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y lleoliad. Cliciwch yma am restr o westai neu lety Gwely & Brecwast cyfagos.
Mynediad:
Gellir cael mynediad rhwydd i Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae yma ddrysau arbennig i'r anabl, lifftiau a thoiledau ar bob lefel. Am wybodaeth bellach ewch i'r wefan. Mae gan yr ICO gronfa mynediad felly rhowch wybod i ni ar eich ffurflen gais os ydych chi angen cymorth gydag unrhyw anghenion arbennig.
Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Sgiliau Ffilm Skillset, a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol drwy'r ‘UK Film Council’, a'r diwydiant ffilm drwy'r Gronfa Fuddsoddi Sgiliau. Skillset yw'r Cyngor Sector Sgiliau ar gyfer y Diwydiannau Clyweled. www.skillset.org
Mewn cydweithrediad ag Asiantaeth Ffilm Cymru
